top of page

Croeso i Gymdeithas Gwinllannoedd Cymru
 

Wedi’i chreu yn 2013, Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru yw’r gymdeithas ranbarthol ar gyfer WineGB yng Nghymru. WineGB yw’r gymdeithas genedlaethol ar gyfer diwydiant gwin Cymru a Lloegr. Ei chenhadaeth yw hyrwyddo buddiannau lluosog ei holl aelodau i sefydlu Prydain Fawr fel un o ranbarthau gwin o ansawdd gwych y byd.

Gall Cymru frolio bod y winllan fasnachol gyntaf yn y DU wedi’i phlannu gan yr Arglwydd Bute yng Nghastell Coch yn y 1870au. Heddiw, lleolir ein gwinllannoedd o Gas-gwent yn y de i Ynys Môn yn y gogledd, Trefynwy yn y dwyrain ac Aberaeron yn y gorllewin. Gyda phlannu ychwanegol ar safleoedd presennol a gwinllannoedd newydd yn cael eu sefydlu, mae cynhyrchiant o winllannoedd Cymru wedi tyfu’n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf a disgwylir i’r ehangu hwn barhau.

Mae'r gwinoedd o safon a gynhyrchir gan winllannoedd Cymru wedi ennill llawer o wobrau yng nghystadlaethau rhyngwladol megis Global Masters, Deccanter a International Wine Challenge. Mae llawer o’r gwinllannoedd hefyd yn gweld twristiaeth yn rhan allweddol o’u busnes ac yn croesawu ymwelwyr i’w cyfleusterau.

bottom of page